Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 20 Hydref 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
6596


297(v4)

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

Datganiad y Llywydd

Mynegodd y Llywydd ei chydymdeimlad â’r Dirprwy Lywydd, Ann Jones a’i theulu ar farwolaeth ei gŵr Adrian.

</AI2>

<AI3>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")

Dechreuodd yr eitem am 14.31

Gofynnwyd y 7 cwestiwn.

</AI4>

<AI5>

3       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 15.08

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.34 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

</AI5>

<AI6>

4       I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan y Prif Weinidog: Y sefyllfa bresennol o ran Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.

</AI6>

<AI7>

5       Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau

 Dechreuodd yr eitem am 15.40

</AI7>

<AI8>

6       I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.

</AI8>

<AI9>

7       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7435 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

2

4

51

Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

8       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7434 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

9

6

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

9       Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM7436 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI11>

<AI12>

10    Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7437 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

3

3

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 17.01

NDM7442 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NDM7441 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 20 Hydref 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.02 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd dros-dro.

</AI13>

<AI14>

11    Dadl: Coronafeirws

Dechreuodd yr eitem am 17.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd

1.   Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;

2.   Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;

3.   Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.

Cyd-gyflwynwyr

Sian Gwenllian (Arfon)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.

2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.

3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.

4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

1

37

51

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

30

4

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

36

7

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn

 

Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

29

4

53

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)

Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd

1.   Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;

2.   Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;

3.   Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.

4.   Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf.

5.   Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.

6.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI14>

<AI15>

12    Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20

Dechreuodd yr eitem am 18.43

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

NDM7433 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20.

Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol 2019-20

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

3

1

53

Derbyniwyd y cynnig

</AI15>

<AI16>

13    Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.13, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 19.19

</AI16>

<AI17>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.30

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 21 Hydref 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>